Y Gymraeg, technoleg a’r gymdeithas sifil.
Heddiw, mae nifer o bobl yn cyfarfod yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth i drafod amrywiaeth o bynciau yn ymwneud gyda thechnoleg a’r iaith Gymraeg. Mae Hacio’r Iaith wedi cael ei chynnal ers 2010, ac wedi codi sawl pwnc pwysig.
Un peth sydd wedi codi heddiw sydd wedi fy ysgogi i flogio (ers sawl mis). Yn sgil trafodaeth ar ymgyrchi / lobio ar lein postiodd Rhodri ap Dyfrig sawl cwestiwn ar beth ddylai digwydd, ac ar ba ffurf dylid symud ymlaen.
Nodwyd sawl pwynt yn fan hyn (gwna i ddim ail adrodd nhw i gyd yma). Ond yn fy marn i, mae’r hyn sy’n cael ei gwneud gan mysociety.org yn dda iawn ac yn adeiladol. Byth yw’ch barn chi ar y mater?

Yn ogystal, neu yn hytrach (dw i ddim yn siwr), dylai unrhyw un sydd yn ymddiddori yn y defnydd o declynnau sy’n gallu helpu democratiaeth yng Nghymru dilyn rhestrau e-bost mySociety ei hun a chymryd rhan. Mae lot o drafodaethau call a chod i gael.
Diolch am blogio amdano hwn. Doeddwn ni ddim yn gallu mynd, ond roedd yr agenda yn edrych yn diddorol iawn! Mae llawer o ddefnydd o mysociety.org wedi cael ei wneud o amgylch ymgysyllltu gyda dinasyddion yn Lloegr, yn enwedig Fix My Street. Rwyn edrych ymlaen i glywed mwy am sut mae mudiadau Cymreig yn defnyddio nhw. Wnaeth y digwyddiad cynnig llawer o enghreifftiau?