Y Gymraeg, technoleg a’r gymdeithas sifil.
Heddiw, mae nifer o bobl yn cyfarfod yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth i drafod amrywiaeth o bynciau yn ymwneud gyda thechnoleg a’r iaith Gymraeg. Mae Hacio’r Iaith wedi cael ei chynnal ers 2010, ac wedi codi sawl pwnc pwysig.
Un peth sydd wedi codi heddiw sydd wedi fy ysgogi i flogio (ers sawl mis). Yn sgil trafodaeth ar ymgyrchi / lobio ar lein postiodd Rhodri ap Dyfrig sawl cwestiwn ar beth ddylai digwydd, ac ar ba ffurf dylid symud ymlaen.
Nodwyd sawl pwynt yn fan hyn (gwna i ddim ail adrodd nhw i gyd yma). Ond yn fy marn i, mae’r hyn sy’n cael ei gwneud gan mysociety.org yn dda iawn ac yn adeiladol. Byth yw’ch barn chi ar y mater?
Me no speakie English
It would seem that the Lib Dems have cut John Dixon adrift to concentrate on Aled Roberts (you know the disqualified AM). It would seem that the Lib Dems are trying to be bastions of Welsh language rights by claiming that Aled Roberts was at a disadvantage because the rules he read, which was in Welsh was not correct and different to the rules written in English. However when it came to filling in his consent to nomination, he filled in the english version of the form.
Now when I read an official form in Welsh I then go on to fill it in Welsh also. Of course this doesn’t disprove Aled Roberts claim but it seems very inconsistent! Here is a link to that form. nomination form
Methu mynd i Bala?
Mae’n hynod o gyffroes fod yn rhan o dîm sy’ gyda phobl dalentog ynddi. Yep mae gan Metastwnsh aelod newydd, a gyda fe’r syniad o greu stwnsh o brofiadau pobl o’r eisteddfod. Gyda’r syniad hwn a dylunio Gareth Jones mae gan Metastwnsh gwasanaeth newydd sy’n ffrydio pob tweet sy’n cynnwys y tag #eisteddfod09 , #eisteddfod a #bala. Ynghyd a hyn mae pob llun sy’n cynnwys y geiriau hyn yn cael eu ffrydio o Flickr, ac mae yna ddefnydd gwych o google maps a grëwyd gan Rhys Llwyd wedi cael ei chynnwys ar y gwefan.
Mae’n syndod faint a ellir cyflawni mewn amser bach iawn a heb gyllideb fawr, os o gwbwl. Meddyliwch beth allai’r BBC, S4C neu’r Eisteddfod ei hun cyflawni os oedd ganddynt y weledigaeth…
Fello os na allwch chi mynd i Bala mewn cwch banana, neu unrhyw ffordd arall, ewch i weld GWASANAETH METASTWNSH.
Yr hawl i dynnu llun
Ond yr hyn sy’n digwydd yn gynyddol erbyn hyn yw bod y ddeddf yma yn cael ei defnyddio fel esgus i atal ffotograffwyr rhag tynnu llun heddweision wrth iddynt fod wrth eu busnes plismona pob dydd. Enghraifft o hyn yw stori’r ddynes yma a chafodd ei hatal yn ffisegol gan yr heddlu oherwydd ei bod hi wedi ffilmio triniaeth cafodd ei sboner hi gan yr Heddlu. Ffilmio’r Heddlu wrth iddynt fynd o gwmpas eu gwaith pob dydd oedd hi, nid oedd cynnwys y ffilm yn mynd i fod o ddefnydd i unrhyw fudiad terfysgol. Er hyn dyna oedd y rheswm dros ei hatal, a’r ymgais i gipio’i ffôn oddi wrthi.
Fel person sy’n cymryd diddordeb mewn ffotograffiaeth, ac wedi tynnu lluniau o brotestiadau a hefyd lluniau o weithredoedd yr heddlu yn y protestiadau hynny, mae’r newyddion hyn yn fy mhoeni. Mae’n amlwg bod yr heddlu yn barod i gam ddefnyddio eu pwerau i atal y cofnodi o ddigwyddiadau gwleidyddol eu naws. Mewn ffordd fe ellir gweld hwn fel sensoriaeth uniongyrchol gan yr heddlu trwy greu awyrgylch o ofn.
Dyma beth y mae’r ddeddf yn ei ddweud:
58. Collection of information
(1) A person commits an offence if—
(a) he collects or makes a record of information of a kind likely to be useful to a person committing or preparing an act of terrorism, or
(b) he possesses a document or record containing information of that kind.
(2) In this section “record”
includes a photographic or electronic record.
Deddf Terfysgaeth 2000



